LEAF Open Farm Sunday Search

Jamie McCoy, Fferm Gorwel

Mae Jamie McCoy a'i phartner Deian Evans yn rhedeg Fferm Gorwel ym Mryngwyn, i'r gogledd o Gastellnewydd Emlyn yng Ngheredigion, Gorllewin Cymru. Mae Gorwel yn fferm deuluol, yn godro 170 o wartheg godro ar system wair lloea yn yr hydref, gyda chyfleusterau newydd i roi'r gwartheg dan do dros y gaeaf. Maent yn falch o gyflenwi'u llaeth i Arla, yn ymboeni'n fawr am ddelwedd ffermio gwartheg godro ac yn awyddus i weithio gyda'u cymuned leol i rannu'r hyn maent yn ei wneud gyda phobl eraill. Hefyd, mae ganddynt ddiadell o 150 o ddefaid masnachol, a menter foch fach iawn. Mae Jamie yn gweithio oddi ar y fferm hefyd i AHDB Dairy yn cynorthwyo ffermwyr llaeth i wella'u cystadleurwydd busnes. Roedd cymryd rhan yn nigwyddiad Dydd Sul Fferm Agored LEAF am y tro cyntaf yn 2016 yn estyniad i ymrwymiad Jamie i gyfathrebu ynglŷn â ffermio. Dyma ei stori...

Gorllewin Cymru

Cysyll­ti­adau Cymunedol 

I ni, rhan fawr o ben­derfynu cym­ryd rhan yn Nydd Sul Fferm Agored LEAF oedd cysyll­tu â’n cymuned leol. Er ein bod yn byw mewn ardal wledig, nid yw llaw­er o bobl yn gwybod beth sydd yn mynd ymlaen yn y caeau o’u ham­gylch. Heb siop ben­tref na tha­farn, nid oes man natu­ri­ol i bobl ddod at ei gily­dd. Fel­ly, roedd Dydd Sul Fferm Agored LEAF yn gyfle gwych i ni greu dig­wyd­di­ad i’r gymuned gyfan a dod â nhw yn agosach at ffermio. 

Ein pry­der mwyaf oedd p’un a fyd­dai pobl yn dod yma! Wrth fyw yng nghefn gwlad Gor­llewin Cym­ru, roed­dem yn med­dwl y byd­dai gan bawb gysyll­ti­ad â ffermio, fel­ly pam fyd­den nhw’n dod i ddi­wrn­od agored ar fferm! Yn fferm tir pori, roed­dem yn med­dwl hefyd tybed a fyd­dai gen­nym ddigon i’w ddan­gos i bobl. Ond i’r gwrth­wyneb! Siaradom gyda llaw­er o bobl ymlaen llaw â’n sicrhaodd nad oedd ots pa mor syl­faenol oedd y diwrn­od, i ymwel­wyr, roedd yn rhy­w­beth gwa­hanol i’w wneud. Fel­ly, pen­derfynom fen­tro, ac rwyf mor falch ein bod wedi gwneud. 

Rhan­nu ein Stori 

Roed­dem eisi­au dan­gos real­i­ti rhedeg fferm gymysg, fach. Cyn­haliom ard­dan­gosi­adau godro, ard­dan­gos­fa beiri­an­nau statig, roedd gen­nym fwrdd natur syml gyda binocwlars i bobl eu defny­d­dio, ac roedd ymwel­wyr hefyd yn gal­lu mynd yn agos at ein defaid a’n lloi ac eistedd ar drac­tor — ffe­fryn mawr ymh­lith plant a’u rhieni! 

Roedd helpu pobl i wneud y cysyll­ti­ad rhwng beth sy’n dig­wydd ar fferm gymysg yng Ngor­llewin Cym­ru a’r hyn maent yn ei weld ar sil­f­foedd yr arch­farch­nad, yn gymhel­liant mawr i fod yn rhan o’r dig­wyd­di­ad Dydd Sul Fferm Agored. Gan ein bod yn cyflen­wi ein llaeth i Arla, roedd gen­nym fwrdd bla­su Arla tu allan i’r parl­wr godro, fel­ly pan fyddai’r ymwel­wyr yn gweld y gwartheg yn cael eu gor­do, roed­dent yn gal­lu bla­su rhai o’r cyn­hyr­chion o’n llaeth ni! 

Yn ogys­tal, fe wnaethom redeg caf­fi bach a choginio crem­pogau, fel bod pobl yn gal­lu gweld y cyn­hwy­s­ion crai a blasu’r cyn­nyrch terfynol – eto, roedd yn ffordd bwerus iawn o helpu pobl i wneud y cyswllt han­fodol hwn­nw rhwng bwyd a ffermio. 

Chwifio’r fan­er dros Amaethy­d­di­aeth Prydain 

I ni, roedd bod yn rhan o Ddy­dd Sul Fferm Agored LEAF yn golygu estyn allan i’n cymuned leol a dyna’n union â’n gal­lu­o­godd ni i wneud. Roedd dosbarthu’r gwa­hod­di­adau â llaw, gwneud cyswllt â chym­do­gion a dweud wrthynt am ein dig­wyd­di­ad yn rhoi bod­dhad mawr i ni. Rwy’n cre­du bod gwybod ein bod yn cyn­nal dig­wyd­di­ad cymunedol rhad ac am ddim yn anfon neges rymus iawn. Hefyd, dywe­dodd cym­do­gion sy’n ffermio a fyny­chodd faint yr oed­dent yn gwerth­fawro­gi gweld pobl nad oedd gand­dynt gyswllt rhe­o­laidd â nhw. Mae hyn mor bwysig mewn cymuned wledig fach. 

Roedd llaw­er o ade­gau arben­nig yn ystod y dydd. Un peth cofi­ad­wy oedd gweld wynebau pobl yn goleuo pan oed­dent gyda’r ani­feil­i­aid a gweld eu hymdeim­lad o ryfed­du at yr hyn rydym yn ei wneud. Gofynn­odd un ferch fach a oedd dolffini­aid yn byw yn y tanc slyri — mae hyn yn ein hatgoffa’n gadarn fod angen gwiri­oned­dol, hyd yn oed mewn ardaloedd gwledig, i gyny­d­du ymwyby­d­di­aeth o ffermio a chyn­hyrchu bwyd. 

Mae’n ein cymuned leol yn ein hadna­bod ni nawr, nid y bobl hyn­ny sy’n eistedd yn y trac­tor ydyn ni mwy­ach! Mae gand­dynt ddealltwriaeth o’r hyn rydyn ni’n ei wneud, beth sy’n mynd ymlaen yn y caeau, faint o bwys rydym yn ei roi ar iechyd a lles ani­feil­i­aid, lefel tech­no­leg ar y fferm, gwybod beth rwy’n ei wneud pan fyd­dant yn fy ngweld i’n cerdded o amgylch gyda’r mesury­dd plât. Mae gen­nym berthy­nas barhaus â nhw — drwy gydol y flwyd­dyn. Yn ben­dant, mae wedi ennill ychy­dig o ffafr’ i ni ar gyfer yr ade­gau anodd hyn­ny yn y flwyd­dyn pan fyd­dwn ni’n gwas­garu slyri ar bryn­hawn Sul! 

Gwer­si a Ddysgwyd 

At ei gily­dd, fe wnaeth pawb a ddaeth yma gael diwrn­od da iawn, a byd­dwn yn ben­dant yn cyfra­no­gi bob blwyd­dyn. Erbyn hyn, rydym yn troi ein med­dyli­au i beth allem ei wneud yn wahanol y tro nesaf. Dyma’r pum wers all­wed­dol a ddysgom: 

  • Brif­fio cynorth­wywyr – mae’n han­fodol fod pobl all­wed­dol ar gael i ateb cwestiy­nau; mae mor bwysig eu briffio’n dryl­wyr ymlaen llaw ynglŷn â beth rydych yn ei ddis­g­wyl ar y diwrn­od a’r prif nege­seuon rydych am eu cyfleu i ymwelwyr. 
  • Tei­thi­au wedi’u Ham­seru – mae angen i bawb fynd adref â’u cwestiy­nau wedi’u hateb, fel­ly byd­dwn i’n tre­fnu tei­thi­au ar gyfer amser­au dyn­odedig a gwneud yn siŵr bod ymwel­wyr yn cael rhy­w­faint o amser un-i-un gyda mi a’m part­ner gan mai ni yw’r rhai sy’n gwybod stori’r fferm hon. 
  • Tra­cio nif­er­oedd – fe gaw­som anhaw­ster yn cadw gol­wg ar yr union nif­er­oedd o ymwel­wyr am fod y fferm mor agored — roedd rhai pobl wedi gal­lu sleifio i mewn! Fe wnaethom agor rhwng 124:30pm ac amcangyfrifwn ein bod wedi cael 120 o ymwel­wyr. Y tro nesaf, byd­dwn yn cadw cofn­od gwell o nif­er­oedd ymwel­wyr trwy greu atal­fa wrth y fyned­fa a chofre­stru ymwel­wyr wrth iddynt gyrraedd. 
  • Bywio­gi pethau – mae angen i ymwel­wyr gael eu denu i ymweld eto, fel­ly mae’n beth da i edrych ar ffyrdd i fywiogi’ch dig­wyd­di­ad trwy gyn­nal gwei­th­gared­dau newydd yn ogys­tal â chadw rhai o’r nod­wed­dion craidd. Y tro nesaf, rydym yn ystyried cyn­nal cys­tadleuaeth taflu wel­ing­tons a dod ag ysgol bobi leol i mewn i wneud toes, ac adrodd hanes taith grawn i’r dorth. 
  • Ffo­tograf­fi­aeth - tyn­nwch lwyth o ffo­tograf­fau a dirprwywch y gwaith hwn i rywun pen­odol fel ei fod yn cael ei wneud. 

Mae Dydd Sul Fferm Agored LEAF yn cyn­nig cyfle gwych i roi yn ôl i’ch cymuned, a pha esgus gwell sydd i’w gael i lanhau’r fferm drwyd­di draw a chael terfyn amser i wei­thio ato. Cyfra­nog­wch, mwyn­hewch a chwifi­wch y fan­er dros Amaethy­d­di­aeth Prydain!

Back to case studies

Sign up to our mailing list(s)

You are now subscribed!

You are signed up to the mailing list(s) you selected.

If you no longer wish to receive emails from us, every email we send contains a link at the bottom allowing you to unsubscribe with one click. Privacy Policy.

Already have an account?

If you are already registered on this site, or you have an existing myLEAF account, then please log in below.

To register or edit your Open Farm Sunday event you will need an account. Privacy Policy.

Log in

Forgot password?

Don't have an account?

Not to worry, you can create an account by clicking the button below. Privacy Policy.

Create Account

Create an account

Creating an account is quick and easy. Simply enter your details below and we'll send you a username and password by email straight away.

To register or edit your LEAF Open Farm Sunday event you will need an account.

Your new account details will log you into both Open Farm Sunday and myLEAF. Privacy Policy.

Back to login

Account creation complete

Please check your email for a message containing your new username and password.

You can use these details to log into both Open Farm Sunday and myLEAF. Privacy Policy.

Once logged in to myLEAF for the first time, it is advisable to change your password to something memorable via the 'My Profile' page.

Back to login

Forgot password

Back to login

Forgot password

Details of your account have been sent to your email address.