Jamie McCoy, Fferm Gorwel
Mae Jamie McCoy a'i phartner Deian Evans yn rhedeg Fferm Gorwel ym Mryngwyn, i'r gogledd o Gastellnewydd Emlyn yng Ngheredigion, Gorllewin Cymru. Mae Gorwel yn fferm deuluol, yn godro 170 o wartheg godro ar system wair lloea yn yr hydref, gyda chyfleusterau newydd i roi'r gwartheg dan do dros y gaeaf. Maent yn falch o gyflenwi'u llaeth i Arla, yn ymboeni'n fawr am ddelwedd ffermio gwartheg godro ac yn awyddus i weithio gyda'u cymuned leol i rannu'r hyn maent yn ei wneud gyda phobl eraill. Hefyd, mae ganddynt ddiadell o 150 o ddefaid masnachol, a menter foch fach iawn. Mae Jamie yn gweithio oddi ar y fferm hefyd i AHDB Dairy yn cynorthwyo ffermwyr llaeth i wella'u cystadleurwydd busnes. Roedd cymryd rhan yn nigwyddiad Dydd Sul Fferm Agored LEAF am y tro cyntaf yn 2016 yn estyniad i ymrwymiad Jamie i gyfathrebu ynglŷn â ffermio. Dyma ei stori...
Gorllewin Cymru
Cysylltiadau Cymunedol
I ni, rhan fawr o benderfynu cymryd rhan yn Nydd Sul Fferm Agored LEAF oedd cysylltu â’n cymuned leol. Er ein bod yn byw mewn ardal wledig, nid yw llawer o bobl yn gwybod beth sydd yn mynd ymlaen yn y caeau o’u hamgylch. Heb siop bentref na thafarn, nid oes man naturiol i bobl ddod at ei gilydd. Felly, roedd Dydd Sul Fferm Agored LEAF yn gyfle gwych i ni greu digwyddiad i’r gymuned gyfan a dod â nhw yn agosach at ffermio.
Ein pryder mwyaf oedd p’un a fyddai pobl yn dod yma! Wrth fyw yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru, roeddem yn meddwl y byddai gan bawb gysylltiad â ffermio, felly pam fydden nhw’n dod i ddiwrnod agored ar fferm! Yn fferm tir pori, roeddem yn meddwl hefyd tybed a fyddai gennym ddigon i’w ddangos i bobl. Ond i’r gwrthwyneb! Siaradom gyda llawer o bobl ymlaen llaw â’n sicrhaodd nad oedd ots pa mor sylfaenol oedd y diwrnod, i ymwelwyr, roedd yn rhywbeth gwahanol i’w wneud. Felly, penderfynom fentro, ac rwyf mor falch ein bod wedi gwneud.
Rhannu ein Stori
Roeddem eisiau dangos realiti rhedeg fferm gymysg, fach. Cynhaliom arddangosiadau godro, arddangosfa beiriannau statig, roedd gennym fwrdd natur syml gyda binocwlars i bobl eu defnyddio, ac roedd ymwelwyr hefyd yn gallu mynd yn agos at ein defaid a’n lloi ac eistedd ar dractor — ffefryn mawr ymhlith plant a’u rhieni!
Roedd helpu pobl i wneud y cysylltiad rhwng beth sy’n digwydd ar fferm gymysg yng Ngorllewin Cymru a’r hyn maent yn ei weld ar silffoedd yr archfarchnad, yn gymhelliant mawr i fod yn rhan o’r digwyddiad Dydd Sul Fferm Agored. Gan ein bod yn cyflenwi ein llaeth i Arla, roedd gennym fwrdd blasu Arla tu allan i’r parlwr godro, felly pan fyddai’r ymwelwyr yn gweld y gwartheg yn cael eu gordo, roeddent yn gallu blasu rhai o’r cynhyrchion o’n llaeth ni!
Yn ogystal, fe wnaethom redeg caffi bach a choginio crempogau, fel bod pobl yn gallu gweld y cynhwysion crai a blasu’r cynnyrch terfynol – eto, roedd yn ffordd bwerus iawn o helpu pobl i wneud y cyswllt hanfodol hwnnw rhwng bwyd a ffermio.
Chwifio’r faner dros Amaethyddiaeth Prydain
I ni, roedd bod yn rhan o Ddydd Sul Fferm Agored LEAF yn golygu estyn allan i’n cymuned leol a dyna’n union â’n galluogodd ni i wneud. Roedd dosbarthu’r gwahoddiadau â llaw, gwneud cyswllt â chymdogion a dweud wrthynt am ein digwyddiad yn rhoi boddhad mawr i ni. Rwy’n credu bod gwybod ein bod yn cynnal digwyddiad cymunedol rhad ac am ddim yn anfon neges rymus iawn. Hefyd, dywedodd cymdogion sy’n ffermio a fynychodd faint yr oeddent yn gwerthfawrogi gweld pobl nad oedd ganddynt gyswllt rheolaidd â nhw. Mae hyn mor bwysig mewn cymuned wledig fach.
Roedd llawer o adegau arbennig yn ystod y dydd. Un peth cofiadwy oedd gweld wynebau pobl yn goleuo pan oeddent gyda’r anifeiliaid a gweld eu hymdeimlad o ryfeddu at yr hyn rydym yn ei wneud. Gofynnodd un ferch fach a oedd dolffiniaid yn byw yn y tanc slyri — mae hyn yn ein hatgoffa’n gadarn fod angen gwirioneddol, hyd yn oed mewn ardaloedd gwledig, i gynyddu ymwybyddiaeth o ffermio a chynhyrchu bwyd.
Mae’n ein cymuned leol yn ein hadnabod ni nawr, nid y bobl hynny sy’n eistedd yn y tractor ydyn ni mwyach! Mae ganddynt ddealltwriaeth o’r hyn rydyn ni’n ei wneud, beth sy’n mynd ymlaen yn y caeau, faint o bwys rydym yn ei roi ar iechyd a lles anifeiliaid, lefel technoleg ar y fferm, gwybod beth rwy’n ei wneud pan fyddant yn fy ngweld i’n cerdded o amgylch gyda’r mesurydd plât. Mae gennym berthynas barhaus â nhw — drwy gydol y flwyddyn. Yn bendant, mae wedi ‘ennill ychydig o ffafr’ i ni ar gyfer yr adegau anodd hynny yn y flwyddyn pan fyddwn ni’n gwasgaru slyri ar brynhawn Sul!
Gwersi a Ddysgwyd
At ei gilydd, fe wnaeth pawb a ddaeth yma gael diwrnod da iawn, a byddwn yn bendant yn cyfranogi bob blwyddyn. Erbyn hyn, rydym yn troi ein meddyliau i beth allem ei wneud yn wahanol y tro nesaf. Dyma’r pum wers allweddol a ddysgom:
- Briffio cynorthwywyr – mae’n hanfodol fod pobl allweddol ar gael i ateb cwestiynau; mae mor bwysig eu briffio’n drylwyr ymlaen llaw ynglŷn â beth rydych yn ei ddisgwyl ar y diwrnod a’r prif negeseuon rydych am eu cyfleu i ymwelwyr.
- Teithiau wedi’u Hamseru – mae angen i bawb fynd adref â’u cwestiynau wedi’u hateb, felly byddwn i’n trefnu teithiau ar gyfer amserau dynodedig a gwneud yn siŵr bod ymwelwyr yn cael rhywfaint o amser un-i-un gyda mi a’m partner gan mai ni yw’r rhai sy’n gwybod stori’r fferm hon.
- Tracio niferoedd – fe gawsom anhawster yn cadw golwg ar yr union niferoedd o ymwelwyr am fod y fferm mor agored — roedd rhai pobl wedi gallu sleifio i mewn! Fe wnaethom agor rhwng 12 a 4:30pm ac amcangyfrifwn ein bod wedi cael 120 o ymwelwyr. Y tro nesaf, byddwn yn cadw cofnod gwell o niferoedd ymwelwyr trwy greu atalfa wrth y fynedfa a chofrestru ymwelwyr wrth iddynt gyrraedd.
- Bywiogi pethau – mae angen i ymwelwyr gael eu denu i ymweld eto, felly mae’n beth da i edrych ar ffyrdd i fywiogi’ch digwyddiad trwy gynnal gweithgareddau newydd yn ogystal â chadw rhai o’r nodweddion craidd. Y tro nesaf, rydym yn ystyried cynnal cystadleuaeth taflu welingtons a dod ag ysgol bobi leol i mewn i wneud toes, ac adrodd hanes taith grawn i’r dorth.
- Ffotograffiaeth - tynnwch lwyth o ffotograffau a dirprwywch y gwaith hwn i rywun penodol fel ei fod yn cael ei wneud.
Mae Dydd Sul Fferm Agored LEAF yn cynnig cyfle gwych i roi yn ôl i’ch cymuned, a pha esgus gwell sydd i’w gael i lanhau’r fferm drwyddi draw a chael terfyn amser i weithio ato. Cyfranogwch, mwynhewch a chwifiwch y faner dros Amaethyddiaeth Prydain!
Sign up to our mailing list(s)
You are now subscribed!
You are signed up to the mailing list(s) you selected.
If you no longer wish to receive emails from us, every email we send contains a link at the bottom allowing you to unsubscribe with one click. Privacy Policy.