Abi Reader, Fferm Goldsland, Sir Forgannwg
Mae Abi Reader yn ffermwr godro trydedd genhedlaeth sy’n rheoli buches o 180 o wartheg Holstein Friesian a Gwartheg Godro Byrgorn yn Sir Forgannwg, De Cymru. Mae Abi yn chwilio am ffyrdd i addysgu pobl o hyd, ac mae wedi mentora llawer o fyfyrwyr amaethyddiaeth a milfeddygaeth ar Fferm Goldsland, Gwenfô. I rywun sy’n honni nad yw’n ‘rhyw lawer o berson pobl’, mae ei hangerdd dros ganfod ffyrdd i estyn allan i ddefnyddwyr yn rhyfeddol – fel siarad yn fyw gyda Chris Evans ar ei sioe frecwast ar Radio 2! Dyma ei stori am gymryd rhan ym menter Dydd Sul Fferm Agored LEAF am y tro cyntaf...
Sir Forgannwg
Fe wnaeth bod yn rhan o’r Ymgyrch Ffermio Llaeth SOS yn 2012 agor fy llygaid i’r modd y gallwch ddylanwadu ar bobl yn y gadwyn fwyd, a pha mor amlwg oedd hi fod pobl wir eisiau gwybod mwy ynglŷn ag o ble y daw eu bwyd. Rwy’n credu y dylai pob plentyn (a phob oedolyn o ran hynny) gael yr hawl i weld a chael profiad o fferm a deall y gwaith, y gofal a’r parch a gymer i redeg un. Ar ôl bod yn gysylltiedig â nifer o ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd i gyfleu ein negeseuon ffermio llaeth, rwy’n gweld y cyfleoedd hyn yn destun mwynhad a budd mawr – rwyf hyd yn oed yn cael cardiau Nadolig gan rai o’r bobl rwyf wedi cyfarfod â nhw! Yn fy marn i, ni ddylem fod yn cwyno ynghylch diffyg dealltwriaeth o’n diwydiant ymhlith defnyddwyr; dylem fod yn mynd allan yno a gwneud rhywbeth yn ei gylch!
FY MHROFIAD O DDYDD SUL FFERM AGORED LEAF
Yn 2014 y cynhaliais ein digwyddiad cyntaf Dydd Sul Fferm Agored LEAF. I ddechrau, roedd meddwl am agor y fferm i’r cyhoedd yn frawychus. Ond roedd cymaint o gymorth parod i’w gael, roedd yn hwb a wnaeth fy annog i fynd amdani.
Pa gymorth sydd ar gael?
I gychwyn, cofrestrais ein digwyddiad yn www.farmsunday.org. Yna, mae trefnwyr LEAF (Cysylltu Ffermio â’r Amgylchedd) yn anfon cylchlythyrau sy’n cynnig syniadau wrth baratoi ar gyfer y diwrnod. Maent hefyd yn darparu llwyth o adnoddau rhad ac am ddim – mae’r cyfan yno i chi! Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw dewis yr eitemau Dydd Sul Fferm Agored LEAF y credwch y gallwch eu defnyddio, ac yna’u harchebu – o bosteri i grysau‑t a rhoddion – yna maent yn cyrraedd yn y post – y cyfan mor hawdd ac yn rhad ac am ddim! Gan ddefnyddio’r llawlyfr a anfonwyd ataf, aethom ati i ddechrau cynllunio’n digwyddiad a dewisom wneud bwganod brain a phlatiau natur. Nid oedd y bwganod brain wedi costio’r un geiniog, dim ond pren a hen ddillad oedd eu hangen. Nid oedd y platiau natur wedi costio mwy na £10 am i ni brynu platiau papur, glud a gwahanol ddarnau crefft i gael lliw. Hefyd, prynom wobrau bach (pensil fferm a nodiadur) i’r plant a gwblhaodd dasg.
Hefyd, cysylltais â’m tîm Iechyd yr Amgylchedd lleol i gael cyngor ar sut i sicrhau ein bod yn cael ein trefniadau iechyd a diogelwch yn iawn ar y diwrnod. Roeddent yn wych, a daethant allan ymlaen llaw i weld sut gallen nhw helpu — cynigiwyd sinciau cludadwy i ni er mwyn i ni allu sicrhau bod cyfleusterau golchi dwylo ar gael i’n holl ymwelwyr.
Sut aeth y diwrnod mewn gwirionedd?
Aeth y diwrnod yn dda iawn. Cawsom 310 o ymwelwyr. Yn ogystal â’r daith o amgylch y fferm, roedd y gweithgareddau plât natur a chreu bwganod brain yn llwyddiant mawr, ac yn gyfle i’r plant ddefnyddio eu dychymyg. Gallwch weld rhai o’r bwganod brain yma!
Yn ogystal â help gan ffrindiau amrywiol, Ffermwyr Ifanc, cydweithwyr a myfyrwyr, gwahoddais ein milfeddygfa leol i gymryd rhan hefyd. Daethant yma a chynnal stondin luniaeth syml, ac roedd ganddynt eu stondin hyrwyddo eu hunain yma hefyd. Roedd yn ddiddorol gweld, er bod digwyddiadau Fferm Dydd Sul Agored LEAF yn ddigwyddiadau sy’n rhad ac am ddim i’w mynychu, bod fy ymwelwyr yn awyddus i roi rhodd o ryw fath. Yn y fan a’r lle, yn ystod ein diwrnod ni, gosodom fwced elusen i bobl wneud rhoddion gwirfoddol os oeddent yn dymuno – gweithiodd hyn yn dda iawn hefyd. Gyda’r holl gymorth ymlaen llaw a help ar y diwrnod, roedd y digwyddiad yn un rhyfeddol o rad i’w gynnal; y gost fwyaf oedd darparu portaloos a gostiodd rhyw £80 i’w llogi.
Pa adborth gawsoch chi?
Cawsom adborth cadarnhaol iawn ar y diwrnod, gyda llawer o ymwelwyr yn dweud y byddent yn hoffi dod yn ôl eto. Mae’n siŵr gen i y daeth y boddhad mwyaf i mi bum mis yn ddiweddarach pan oeddwn ar drên i Lundain, a daeth dieithryn llwyr draw ataf. Roedd ei phlant wedi tynnu ei sylw at ‘ddynes y gwartheg’ ac roedd eisiau dod a dweud wrtha’i gymaint yr oeddent i gyd wedi mwynhau diwrnod arbennig a chofiadwy!
Mae Dydd Sul Fferm Agored LEAF yn hawdd iawn i’w drefnu, ac yn ddigwyddiad sy’n rhoi cymaint o foddhad i ffermwyr godro gymryd rhan ynddo. Yn bendant, mae’n mynd yn bell i gysylltu â phobl leol a’u helpu i gael dealltwriaeth o fyd ffermio gwartheg godro, ac o ble y daw eu cynhyrchion llaeth.
TROEDNODYN
Mae’r profiad yn rhoi cymaint o foddhad i Abi ei bod yn cymryd rhan yn nigwyddiad Dydd Sul Fferm Agored LEAF bob blwyddyn. Yn 2017, fe wnaeth Abi helpu gyda chyhoeddusrwydd cenedlaethol ac roedd yn westai annisgwyl i Chris Evans gyfweld â hi yn fyw ar ei raglen Sioe Frecwast ar Radio 2 ychydig ddiwrnodau cyn digwyddiad Dydd Sul Fferm Agored LEAF. Ac nid hynny yw ei hunig weithgarwch addysgol cyhoeddus! Mae wedi bod yn gysylltiedig ag ymgyrch hefyd i fynd â phrofiadau a negeseuon ffermio i blant ysgol dinasoedd, gan gynnwys ymweliad ag ysgol canol dinas yn Llundain a fu’n eitem ar y newyddion cenedlaethol!
Sign up to our mailing list(s)
You are now subscribed!
You are signed up to the mailing list(s) you selected.
If you no longer wish to receive emails from us, every email we send contains a link at the bottom allowing you to unsubscribe with one click. Privacy Policy.